Croeso i wefan gymunedol Penmachno. Os ydych yn byw yn yr ardal neu yn ymwelydd sydd am ddarganfod mwy am yr ardal a’i thrysorau, dyma’r wefan i chi. Rydym mewn cornel hyfryd o Barc Cenedlaethol Eryri, felly dewch draw i ymchwilio a mwynhau.
Fel un o drigolion Penmachno gallwch ymuno a fforwm Penmachno.net i gael sgwrs gyda chymdogion agos neu gyda chyfeillion sy’n byw ymhell. Gallwch gadw mewn cysylltiad â’r hyn sydd yn mynd ymlaen, hysbysebu eitemau sydd gennych i’w gwerthu, holi am rhywbeth rydych ei angen, dysgu am hobïau a diddordebau eich cyd drigolion, cynllunio a hysbysebu digwyddiad neu hyd yn oed sgwrsio am y tywydd. Peidiwch anghofio edrych ar y Cyfarwyddiadur lleol – bas data o fusnesau lleol a gwasanaethau. Hwyrach y canfyddwch yr hyn rydych yn chwilio amdano, neu gallwch gynnwys eich hunan ar y rhestr.
Fel ymwelydd, estynnwn groeso cynnes ichwi. Defnyddiwch y wefan hon i ganfod amrywiaeth o atyniadau lleol sydd ar gael yn yr ardal o’r trac beicio mynydd newydd, llwybrau cerdded hamddenol, marchogaeth a hen chwareli llechi i’n Ffair Haf, Ffair Grefftau Nadolig a chynhesrwydd y croeso yn y dafarn leol. Gyda pentref Betws y Coed ond pedair milltir i ffwrdd, mae Dyffryn Machno mewn man hwylus i gynnig gwyliau gwerth chweil i bawb bob amser o’r flwyddyn.
Bydd cynnwys amrywiol y cyfarwyddiadur lleol yn sicr o’ch synnu a’ch cyfareddu. Dyma’r lle i ddarganfod lleoedd addas i aros. Gallwch aros mewn llety moethus, gwely a brecwast neu dai bync hunan arlwyo. Darganfyddwch yma ble i brynu Cigoedd Cymreig lleol , nwyddau organig, gwaith arlunio bendigedig a chrefftau lleol o ansawdd. Gallwch osod unrhyw ddigwyddiad sydd angen eu cofnodi yn eich dyddiadur a chadw mewn cysylltiad a newyddion lleol. Yma hefyd, gallwch ddarllen am hanes a thraddodiadau’r Dyffryn a mwynhau’r lluniau hudolus. Mae gennym lawer i’w gynnig yma o’r ysblennydd i’r naturiol – mae fel chwa o awyr iach yng nghanol prysurdeb bywyd.
